Neidio i'r prif gynnwys

Gwneud cais am Gerdyn Teithio Rhatach Cymru i Berson Anabl

Nid wyf wedi cael Cerdyn Teithio Rhatach Cymru - hoffwn wneud cais am un.

Gwneud cais am Gerdyn Teithio Rhatach i Bobl Anabl

Cardiau Cydymaith

Os ydych chi angen cymorth rhywun arall ar gyfer rhai neu bob un o'ch teithiau, gallwch wneud cais am gerdyn cydymaith sy'n caniatáu i un person deithio am ddim gyda chi.

Gallwch gael cerdyn cydymaith os oes gennych:

  • Ymddygiad heriol, ac angen goruchwyliaeth bob amser.
  • Namau gwybyddol a meddyliol difrifol (gan gynnwys pobl heb ymwybyddiaeth o risg, a gallu cyfyngedig i gynllunio a dilyn taith).
  • Cyfuniad o nam ar y golwg a chlyw neu ar y golwg a'r lleferydd sy'n atal symudedd annibynnol, neu
  • Anawsterau defnyddio cadair olwyn yn annibynnol.

Os ydych chi angen cerdyn cydymaith, bydd angen i chi gysylltu â'ch cyngor lleol.

Byddant yn asesu a ydych chi'n bodloni'r meini prawf cyn prosesu'ch cais.