Os yw eich prif gyfeiriad yng Nghymru a'ch bod naill ai'n 60 oed a throsodd neu'n bodloni meini prawf cymhwysedd anabledd y Llywodraeth, gallwch deithio am ddim ar y rhan fwyaf gwasanaethau bysiau yng Nghymru a'r gororau a chael teithio am bris gostyngol neu am ddim ar lawer o wasanaethau trenau
Os ydych chi wedi gwneud cais yn barod a hoffech olrhain eich cais neu os oes gennych chi gerdyn a hoffech ddiweddaru eich manylion, dewiswch "My existing card or application" isod. Bydd gofyn i chi roi eich rhif Yswiriant Gwladol neu rif eich cerdyn, gyda'ch Dyddiad Geni a'ch Cod Post.
Gwneud cais am Gerdyn Teithio Rhatach i rywun 60 a throsodd
Mae gennych hawl i gael Cerdyn Teithio Rhatach os ydych chi'n 60 oed o leiaf, a'ch prif gartref yng Nghymru.
Gwneud cais am Gerdyn Teithio Rhatach Cymru i Berson Anabl
Mae gennych hawl i gael Cerdyn Teithio Rhatach os ydych chi'n berson anabl cymwys, a'ch prif gartref yng Nghymru
Os ydych chi'n anabl a bod eich cyflwr yn cyfyngu ar eich gallu i deithio ar eich pen eich hun, efallai y byddwch chi'n gallu cael cerdyn cydymaith a fydd yn galluogi rhywun arall i deithio gyda chi am ddim.
Fy ngherdyn neu gais presennol
Os ydych chi newydd wneud cais, edrychwch ar fanylion eich cais a lanlwytho ddogfennau ychwanegol os gofynnwyd i chi wneud hynny.
Os oes gennych gerdyn eisoes, rhowch wybod i ni a ydych am newid manylion eich cerdyn neu ddweud wrthym am gerdyn a gollwyd/a gafodd ei ddwyn.