Gwneud cais am Gerdyn Teithio Rhatach Cymru i Berson Anabl
Nid wyf wedi cael Cerdyn Teithio Rhatach Cymru - hoffwn wneud cais am un.
Cardiau Cydymaith
Os ydych chi angen cymorth rhywun arall ar gyfer rhai neu bob un o'ch teithiau, gallwch wneud cais am gerdyn cydymaith sy'n caniatáu i un person deithio am ddim gyda chi.
Gallwch gael cerdyn cydymaith os oes gennych:
- Ymddygiad heriol, ac angen goruchwyliaeth bob amser.
- Namau gwybyddol a meddyliol difrifol (gan gynnwys pobl heb ymwybyddiaeth o risg, a gallu cyfyngedig i gynllunio a dilyn taith).
- Ar ôl gwirio’r manylion sydd wedi’u diweddaru gennych, bydd cerdyn newydd yn cael ei anfon atoch. Does dim angen i chi wneud dim byd arall oni bai fod Trafnidiaeth Cymru yn cysylltu â chi.
- Anawsterau defnyddio cadair olwyn yn annibynnol.
Os ydych chi angen cerdyn cydymaith, bydd angen i chi gysylltu â'ch cyngor lleol.
Byddant yn asesu a ydych chi'n bodloni'r meini prawf cyn prosesu'ch cais.